Llif RSS

Blog cyntaf!

Helo!

Gan mai dyma’r blog cyntaf, dwi’n mynd i falu awyr.

‘Dani’n gobeithio diweddaru’r blog yma mor aml a fedrani. Dwnim os wnawni hynny, ond dyna ni.

Ma’ Aled a fi wedi bod yn gweithio ar wefan newydd swanc Cowbois Rhos Botwnnog ers diwrnod neu ddau. Mae o yn edrych yn o lew, dybia i. Ond eto, r’un fath a recordio albym a ballu, mae gwario gymaint o amser ar wbath yn achosi i fi golli pob perspectif o’r peth, felly digon posib ei bod hi’n edrych yn eithriadol o wael.

Mi ‘dani fod lawr yn Gaerdydd ar y funud, yn pracdeishio efo Georgia Ruth tuag at gig yn Gwdihw yn noson lawnsio Huw M nos Fercher, yn ogystal a mynd i barti Nadolig  Radio Cymru Huw Stephens .Ond, yn hytrach na’i bomio hi lawr yr A470, penderfynodd Vanessa’r fan y byddai’n well ganddi sefyll yn y glaw a gwrthod symud. ‘Mi aeth Iwan ar y tren r’un fath. Duw a wyr pryd y doith o yn ei ol.

Yn ddiweddar iawn, ‘dani wedi symud i dy yn Llithfaen:

Image

Da ‘di Llithfaen. Mae’r pentre tua 20 munud o Botwnnog, lle cawsom ein geni a’n magu. Ma gan Llithfaen dy tafarn, siop, a ‘rwan, home studio:

Image

‘Sgynoni ddim y wyrld wide web yn y ty eto, felly dani ‘di bod adra yn  ‘Rerw am chydig ddyddiau, yn gneud petha fel y wefan, ac edmygu locsyn Dad:

Image

Ar ol cael fy ysbrydoli gan ymgais arbennig ffaddyr o dyfu ei locsyn cynta, mi esh ati i drio tyfu ‘wbath fy hun. Yn anffortunus, ma fy un i, fel ma Mam yn ei ‘ddeud, fel brigyn eithin bler. Dwi’n cytuno:

Image

Dwi jysd yn 24. Fedrai ond teimlo anghyfiawnder ac anhecwch fy mod i a fy mrodyr wedi colli be’ ddylia fod yn hawl pob dyn; tyfu locsyn tew.

Ynghyd a cholli pob un o’i sbectols, ma mam wedi bod yn shrincio jympyrs da:

Image

Hwyl am y tro.

Dafydd

Advertisements

One response »

  1. Gwychder. Mwynhewch Caerdydd.

    Ateb

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: