RSS Feed

5 o hoff recordiau Dafydd.

Ma’ hyn yn anodd braidd, ond oni’n meddwl swni yn trio rhestru fy 5 hoff record erioed. Yn amlwg, ma.hwn yn restr sydd yn mynd i newid o wythnos i wythnos, dydd i ddydd o bosib. Ond dyma’r rhai presennol. (Deud y gwir, ma gneud rhestr top 5 ERIOED yn amhosib, felly dyma 5 albym dwi’n hoff iawn ohonynt!)

Ryan Adams – Heartbreaker

Heartbreaker

 Ma’ hon yn un o ddwy dwi bron yn sicr y byswni byth yn medru ei thynnu oddi ar yr rhestr. ‘Dwin meddwl na hon ydi’r best produced ac engineered albym erioed. Ryan Adams a Ethan Johns, a pobol anhgyoel eraill fel Gilian Welch a Dave Rawlings. Mai yn wych.

Neil Young – Harvest Moon.

 Harvest Moon

Hon ydi’r unig un arall  sydd yn saff oi lle yn y top 5. ‘Di ddim yn cael ei chyfri yn un o albyms gorau Neil Young. Deud gwir, mai’n bell o hynnu, a dwi’n cyfadda, mae na elfen fawr o Nostalgia yn dod mewn i’r dewis yma. Odd Dad yn arfer chwarae hi lot pan oeddani yn llai. Mai’n atgoffa fi o bnawn dydd Sul glawiog adra yn ‘Rerw. ‘Dwin meddwl fod lot o ffans Neil Young yn ei gweld hi dipyn bach yn twee a tame. Ella wir, ond mana ganeuon arbennig arni.

Bon Iver – For Emma Forever Ago.

For Emma Forever Ago

Mana lot o son ‘di bod am Bon Iver drost y blynyddoedd diwethaf. Lot ddim yn ffans, o’r stwff newydd yn enwedig. Dwi’m yn siwr os ydwi, ond mae un peth yn saff, ma hon yn bangar o albym.

Nirvana – Nevermind

Nevermind (20th Anniversary Remastered Edition)

‘Dwi’n meddwl bod hon i fod yma. Geshi phase Nirvana, faha rhan fwyaf o bobl! Sydd yn deud lot am ei dylanwad nhw. Dwi’n meddwl bod rhei o’r drum tracks ar hon ymysg y rhei gorau gaeth ‘rioed ei recordio. (Lot o bobl yn aghhytuno’n chwyrn efo hyna, dwi’n siwr)

EELS – Beautiful Freak.

Beautiful Freak

‘Dwi ddim yn gwrando ar hon mor aml a’r lleill. Deud gwir, oni wedi anghofio amdani tan wan. Oni’n gwrando lot arni cyn mynd i Coleg ac yn ystod y ddwy flynedd wedyn. Llawn caneuon briliant.

Substitute bench:

The Low Anthem – Oh My God, Charlie Darwin

Calexico – Garden Ruin

Steve Eaves – Moelyci

 

Daf

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: